Cymorth
Hygyrchedd
Rydyn ni wedi ceisio ei gwneud yn hawdd i gynifer â phosibl o bobl ddefnyddio’r wefan hon:
- gallwch newid maint y testun ar dudalennau
- ceir disgrifiadau testun o’r delweddau
- chaiff dim gwybodaeth ei chyfleu drwy ddefnyddio lliwiau yn unig
- gallwch ddefnyddio bysellau hwylus i lywio drwy’r safle
- mae modd defnyddio Browsealoud gyda’r wefan.
Darllen y wefan hon
Gallwch newid pryd a gwedd y wefan hon drwy ddefnyddio eich porwr gwe.
Gall darllenwyr Saesneg ddarllen y safle hwn yn Saesneg.
Gwneud testun yn fwy neu’n llai (Internet Explorer neu Firefox)
Defnyddiwch y dewis 'Maint y testun' dan y ddewislen 'Gweld' i wneud y testun yn fwy neu’n llai.
Newid ffontiau neu liwiau (Internet Explorer)
I ddiffodd ffontiau a lliwiau, dewiswch 'Dewisiadau’r Rhyngrwyd' o'r ddewislen 'Offer', a phwyso’r botwm 'Hygyrchedd'.
Newid ffontiau neu liwiau (Mozilla Firefox)
Ewch i 'Dewisiadau' dan y ddewislen 'Offer' a dewis 'Cynnwys'. Defnyddiwch y botwm:
- 'lliwiau' i bennu’r lliwiau ar gyfer y dolenni, y testun a’r cefndir
- 'mwy' i bennu’r ffontiau ar gyfer y testun.
Clywed y wefan hon
Mae modd defnyddio meddalwedd Browsealoud gyda’r wefan hon.
Mae hon yn rhaglen mae modd i chi ei lwytho oddi ar y we am ddim a bydd yn darllen tudalennau’r wefan hon yn uchel i chi.
Ar ôl gosod y meddalwedd gallwch sgrolio eich llygoden dros y testun ar y wefan a bydd Browsealoud yn ei ddarllen yn uchel.
I lwytho copi i lawr, ewch i wefan Browsealoud.
Llywio drwy’r safle drwy ddefnyddio bysellau hwylus
Gallwch lywio drwy’r wefan hon drwy ddefnyddio bysellau hwylus.
Daliwch y fysell 'Alt' i lawr (Windows) neu’r fysell 'Ctrl' (Apple) a phwyso’r fysell berthnasol o’r rhestr isod.
Os ydych chi’n defnyddio Internet Explorer, bydd wedyn angen i chi bwyso 'Enter'.
S Neidio’r llywio
1Hafan
2 Map o’r safle
3Chwilio
4 Help
5 Cysylltu â ni
6 60 mlynedd o gymorth cyfreithiol
7 Beth yw cymorth cyfreithiol
8 Alla i gael cymorth cyfreithiol
9English
Help gyda phroblem gyfreithiol
Gallwch roi cynnig ar y canlynol:
- ffonio llinell gymorth Cyngor Cyfreithiol Cymunedol ar 0845 345 4 345
- defnyddio’r cyfeiriadur ar y wefan Cyngor Cyfreithiol Cymunedol i chwilio am gynghorydd cyfreithiol lleol.
Help i ddod o hyd i wybodaeth
Os na allwch chi ddod o hyd i’r hyn rydych chi’n chwilio amdano rhowch gynnig ar y canlynol:
- map o’n safle
- rhoi gair neu ymadrodd yn y blwch chwilio ar frig pob tudalen.
Cwestiynau, adborth a chwynion
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, adborth neu gwynion am y wefan hon, cysylltwch â ni.