Yn 2009, byddwn yn nodi 60 mlynedd o gymorth cyfreithiol. Gwasanaeth a ariennir gan y llywodraeth yw cymorth cyfreithiol sy'n darparu cyngor, help a chynrychiolaeth gyfreithiol. Mae cymorth cyfreithiol yn gwarchod hawliau pobl ac yn sicrhau eu bod yn cael treial teg.
Darllenwch fwy am gymorth cyfreithiol.Caiff y wefan hon, sy’n dathlu 60 mlynedd o gymorth cyfreithiol, ei chynnal gan y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol er mwyn i chi edrych arni a’i defnyddio at ddibenion personol. Drwy gael mynediad at y wefan hon a’i defnyddio, rydych chi’n derbyn y telerau a’r amodau hyn.
Yr ydym ni (y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol) yn cymryd camau rhesymol i sicrhau bod yr wybodaeth ar y wefan hon yn gywir. Sylwer bod yr wybodaeth yn cael ei darparu fel canllaw yn unig.
Ni dderbynnir dim cyfrifoldeb gan y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol, nac ar ei ran, am unrhyw wallau, am unrhyw beth sydd wedi’i hepgor nac am ddatganiadau camarweiniol ar y tudalennau hyn nac ar unrhyw wefan sydd â dolen at y tudalennau hyn.
Os enwir sefydliad, cwmni neu unigolyn ar y tudalennau hyn, neu ar unrhyw wefannau eraill sydd â dolen at y tudalennau hyn, nid yw hynny’n golygu bod y Comisiwn yn cymeradwyo nac yn gwarantu safle na gallu sefydliad, cwmni neu unigolyn o’r fath.
Mae’r wybodaeth sydd ar y wefan hon yn destun hawlfraint a/neu hawliau cronfeydd data, sy’n berchen i’r Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol. Ceir atgynhyrchu’r wybodaeth hon yn rhad ac am ddim a heb ganiatâd ffurfiol, at ddibenion personol neu fewnol, ar yr amod y caiff ei hatgynhyrchu’n gywir ac nad yw’n cael ei defnyddio mewn cyd-destun camarweiniol.
Nid yw’r caniatâd i atgynhyrchu deunydd sy’n berchen i’r Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol neu a warchodir gan hawlfraint neu hawliau cronfeydd data yn ymestyn i unrhyw wybodaeth ar y wefan hon y’i diffinnir fel hawlfraint neu hawl cronfa ddata trydydd parti.☺
Rhaid cael caniatâd i atgynhyrchu deunydd o'r fath gan berchennog yr hawlfraint neu’r hawl cronfa ddata dan sylw.
Mae’r logos ar y wefan hon yn eiddo i’r Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol.
Mae’r Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol yn gwneud popeth o fewn ei allu i wirio a phrofi deunydd ar bob cam o’r broses gynhyrchu. Mae’n syniad da i chi redeg rhaglen gwrth-firws ar yr holl ddeunydd sy’n cael ei lwytho i lawr o’r rhyngrwyd. Ni allwn dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw ddata a gollir, yr amharir arno neu a ddifrodir, nac am unrhyw ddifrod i system eich cyfrifiadur, wrth ddefnyddio deunydd sy’n deillio o’r wefan hon.
Caiff y telerau a’r amodau hyn eu llywodraethu’n unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr, a dylid eu dehongli’n unol â’r cyfreithiau hynny. Bydd unrhyw anghydfod sy'n codi o dan y telerau a'r amodau hyn yn ymddarostwng i awdurdodaeth benodol llysoedd Cymru a Lloegr.
© Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol. Cedwir Pob Hawl. Darllenwch ein: Ymwadiad Cyfreithiol, Hysbysiad Hawlfraint a Phreifatrwydd