Pam fod angen cymorth cyfreithiol arnom?

Mae cymorth cyfreithiol yn hanfodol i gyfiawnder cymdeithasol.
Pam mae cymorth cyfreithiol yn bwysig
Mewn unrhyw flwyddyn, bydd problemau cyfreithiol megis ysgariad, troi allan neu ddyled yn wynebu:
- 1 ym mhob 4 o bobl
- 1 ym mhob 3 o bobl anabl neu bobl sydd â salwch tymor hir
- 1 ym mhob 2 o bobl ddi-waith
- 1 ym mhob 2 o rieni unigol.
Gwarchod hawliau pobl
Mae cymorth cyfreithiol yn ariannu cyngor cyfreithiol ac yn cynrychioli pobl a gedwir mewn gorsafoedd heddlu, sy'n destun ymchwiliad neu sy'n wynebu cyhuddiadau troseddol.
O blith y bobl hynny a gedwir mewn gorsafoedd heddlu:
- mae bron i 1 ym mhob 4 yn cael eu cadw am fwy na 24 awr
- mae 1 ym mhob 5 yn 16 oed neu’n iau
- mae 1 ym mhob 4 yn cael eu hystyried yn fregus
- mae bron hanner y bobl hynny a gedwir yn cael eu cyhuddo
- ni chymerir camau pellach mewn 1 achos o bob 5.
Sut mae cymorth cyfreithiol yn helpu
Mewn blwyddyn arferol, bydd cymorth cyfreithiol yn helpu dros 2 miliwn o bobl, gan gynnwys:
- dros 250,000 o bobl sy’n rhan o anghydfodau teuluol
- dros 90,000 o bobl sy’n brwydro yn erbyn dyled
- oddeutu 125,000 o bobl gyda phroblemau tai
- oddeutu 18,000 o bobl sy’n dioddef trais yn y cartref
- dros 90,000 o bobl i gael y budd-daliadau lles y mae ganddynt hawl iddynt
- dros 250,000 o bobl sy’n ffonio llinell gymorth Cyngor Cyfreithiol Cymunedol
- dros 750,000 o achosion lle cafodd pobl eu cadw mewn gorsafoedd heddlu
pobl a oedd yn rhan o dros 560,000 o ymddangosiadau mewn llys ynadon.