Sut mae cymorth cyfreithiol yn helpu
Mae cymorth cyfreithiol yn talu am gyngor, cymorth a chynrychiolaeth i helpu pobl gyda’u problemau cyfreithiol.
Mae cymorth cyfreithiol yn helpu dros 2 filiwn o bobl bob blwyddyn.
Darllenwch fwy am sut y mae cymorth cyfreithiol yn helpu pobl bob dydd trwy ddewis categori cyfraith isod.
Newidiwyd rhai o’r enwau.
Camau yn erbyn yr heddlu
Cafwyd ‘Tri Siop Bapur Caerdydd’ yn ddieuog ar apêl ym 1999, ar ôl treulio 11 mlynedd mewn carchar.
Darllen mwy am ‘Tri Siop Bapur Caerdydd’.
Cafodd Shaun Doyle, Joanne ac Ian Morgan eu cyhuddo o lofruddio’u ffrind.
Darllen mwy am Shaun Doyle, Joanne ac Ian Morgan.
Esgeulustod clinigol
Achos rhyfedd Ben.
Ganwyd Catherine gyda pharlys difrifol ar yr ymennydd ac epilepsi ac anawsterau dysgu.
Dioddefodd Hattie niwed i’w hymennydd ar ei genedigaeth ac fe’i gadwyd â pharlys yr ymennydd ac yn fyddar.
Mae gan Nathan barlys difrifol ar yr ymennydd. Enillodd frwydr am iawndal a barodd am 13 o flynyddoedd.
Gadawyd Richard â pharlys difrifol ar yr ymennydd yn dilyn genedigaeth esgeulus.
Trosedd
Arestiwyd Michelle ar amheuaeth o gael eiddo trwy dwyll gan ddefnyddio cerdyn debyd a llyfr siec yr oedd wedi’u dwyn oddi ar ei chariad.
Cafodd Abraham ei rybuddio gan yr heddlu am achosi helynt gyda dau ddyn.
Arestiwyd Mandy ar amheuaeth o dorri amodau Gorchymyn Ymddygiad Gwrthgymdeithasol.
Wrth eistedd mewn cell yng ngorsaf heddlu Greenwich un diwrnod ym mis Ionawr 1992, dysgodd Luke mewn dim o dro i werthfawrogi twrneiod ar ddyletswydd a gyllidir drwy gymorth cyfreithiol.
Dyled
Rhai blynyddoedd yn ôl, aeth Joan i ddyledion rhent a bu’n rhaid iddi ymddangos gerbron llys.
Darllen mwy am Joan.
Yr oedd Claire a’i phartner wedi mynd i ddyled sylweddol ac yr oeddent yn wynebu’r beili a chael eu troi allan o’u cartref.
Roedd Jeff mewn trafferthion mawr gyda’i ddyledion ac roedd ei briodas ar fin chwalu.
Roedd Mrs E yn wynebu problemau ariannol ac roedd ganddi ddyledion gyda chardiau credyd a chardiau siopau.
Yr oedd Gareth mewn dyledion mawr. Yr oedd ganddo bum cerdyn credyd ac roedd wedi methu â thalu ei fil dŵr a’r dreth gyngor.
Cam-drin yn y cartref
Roedd gŵr Joyce yn ei cham-drin hi a’u plant.
Bu Caz yn dioddef trais corfforol yn y cartref a chreulondeb meddyliol am dros 20 mlynedd.
Addysg
Mae Jo yn fam sengl gyda dau o blant. Cafodd wybod bod anhwylder ar y sbectrwm awtistig ar ei mab Ben.
Mae gan Joe anawsterau dysgu. Cafodd ei wahardd o’r ysgol am ymosodiad corfforol ar fyfyriwr arall ac aelod o staff.
Cyflogaeth
Yr oedd Mark yn yrrwr bws am 20 mlynedd ac yn ystod y cyfnod hwn datblygodd alergedd difrifol i nicel.
Mae Ms B yn athrawes sydd wedi brwydro yn erbyn diswyddo annheg.
Gadawodd Tony ei swydd a gwrthododd ei chyflogwr dalu ei chyflog olaf iddi.
Mae Cerys yn gweithio gyda Capita Insurance Services, darparwrLlinell Gymorth Cyngor Cyfreithiol Cymunedol.
Dechreuodd rheolwr Kamala yn y gwaith ei bwlio ac aflonyddu’n rhywiol arni.
Teulu
Ni ddaeth Ron, gŵr Pat adref un gyda’r nos.
Cafodd Chantel ei magu mewn gofal gyda’i brawd hŷn. Yr oedd hi’n bump oedd pan ddechreuodd ei brawd ei cham-drin.
Yr oedd Jayne wedi bod yn cael problemau priodasol gyda’i gŵr ers peth amser a chytunodd y ddau i wahanu.
Aeth Lisa at ei chyfreithiwr lleol gan fod ganddi broblemau cystodaeth yn ymwneud â’i mab ifanc.
Dechreuodd Jane, a oedd yn 6 oed, ddangos arwyddion o fod yn encilgar yn yr ysgol ac yn ddagreuol pan oedd ei mam yn ei gadael yno yn y bore.
Tai
Pan roedd Patrick yn 16, roedd mewn perygl o golli ei lety rhent a gorfod rhoi’r gorau i’w astudiaethau yn y coleg.
Cymerodd Alison nifer o fenthyciadau ac yna aeth i ddyled gan iddi fethu talu ei rhent a’r dreth gyngor.
Cysylltodd Jean â chanolfan y gyfraith gan fod angen cyngor arni ar dai a budd-daliadau.
Yr oedd Christopher, cyn weithiwr gyda’r GIG mewn perygl o golli’r tŷ a fu’n gartref iddo ers 18 mlynedd.
Yr oedd Lina yn wynebu colli ei chartref.
Yr oedd Aiden a Maxine mewn perygl o golli’u tŷ cyngor ar ôl i’w tad (yng nghyfraith) farw a gwrthodwyd yr hawl iddynt dderbyn y denantiaeth.
Darllen mwy am Aiden a Maxine.
Mewnfudo a chenedligrwydd
Yr oedd Fehmi Esen, sydd o dras Cwrdaidd, a’i deulu wedi cael eu herlid pan oeddent yn byw yn Nhwrci.
Daeth Kabashag Reshyt i Loegr fel ceisiwr lloches o Kosovo gyda’i wraig a’i dri phlentyn ifanc.
Darllen mwy am Kabashag Reshyt.
Yr oedd angen cyngor ar Mrs Girach ar fater teuluol yn ymwneud â’r gyfraith fewnfudo.
Iechyd meddwl
Mae Ms B yn fam sengl i bedwar o blant ac mae’n dioddef iselder.
Budd-daliadau lles
Mae Tom yn byw gyda’i wraig, Ann, mewn pentref gwledig. Mae’n dioddef problemau iechyd ac mae ei allu i symud yn dirywio.
Mae parlys ymledol Alun yn gwaethygu. Yr oedd mewn poen mawr ac mae’n poeni’n fawr wrth feddwl am y dyfodol.
Mae Ms A yn fam sengl gyda thri o blant dibynnol. Mae ganddi broblemau iechyd meddwl difrifol.